English
Tu fewn i'r Capel (c) Capel Gwynfil

Tu fewn y capel

Croeso i wefan Capel Gwynfil, Llangeitho


Pwrpas y wefan yw rhannu gwybodaeth am Gapel Gwynfil a bywyd a gwaith y pregethwr enwog o Langeitho, Daniel Rowland (c.1713–1790), ac ymestyn gwahoddiad i chi ymweld â’r capel ac ardal Llangeitho neu gyd-addoli gyda ni ar y Sul.

Ers sefydlu y capel cyntaf yn 1760, mae gan yr addoldy hwn hanes maith a chyfoethog. Ar un adeg ystyrid Llangeitho yn ‘Gaersalem’ y Methodistiaid yng Nghymru, a byddai yn agos i 10,000 o addolwyr yn teithio yma bob Sul i wrando ar Daniel Rowland a derbyn cymun ganddo.

Ein gobaith yw y bydd y wefan yma yn gyfrwng i rannu yr hanes rhyfeddol a ddigwyddodd yn Llangeitho, ac i ymestyn croeso cynnes i ‘bererinion’ y ganrif yma.


Cynulleidfa o 4,000 yn Llangeitho, 1935

Cynulleidfa o 4,000 yn Llangeitho, 1935



Administration